Datganiad Mynediad at Asesiad Teg
Cwmpas
Asesiad teg yw’r broses lle mae asesiadau o fewn cymwysterau/cyrsiau/unedau yn cael eu cynllunio mewn modd sy’n rhoi’r cyfleoedd tecaf posibl i bob ymgeisydd i ddangos cyrhaeddiad.
Y grwpiau y mae angen eu cynnwys
Yng nghyd-destun darpariaeth a achredir yn allanol bydd angen i’r polisi gyfeirio at y grwpiau canlynol:
- Dysgwyr
- Tiwtor/Aseswyr
- Dilyswyr Mewnol
- Personél Cyrff Dyfarnu
Yr egwyddorion
Bydd angen i’r polisi gyfeirio at y mathau canlynol o ddarpariaeth Agored Cymru lle bo’n berthnasol:
- Cymwysterau Agored Cymru a gymeradwywyd o dan Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF)
- Unedau FfCChC
- Cymwysterau Mynediad i Addysg Uwch wedi’u cymeradwyo gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA)
- ‘Unedau a gymeradwywyd yn lleol’.
Wrth gynllunio strategaeth asesu a/neu dasgau asesu unigol bydd angen cynnwys yr egwyddorion canlynol:
- Dibynadwyedd
- Dilysrwydd
- Addasrwydd i’r diben
- Tryloywder
- Cydnabod a pharchu cydraddoldeb ac amrywiaeth
Cysylltiadau defnyddiol
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Diffiniadau o Asesiad
Llawlyfr Canolfan
