Gweithdrefn Camymddygiad
Cwmpas
Diffinnir camymddygiad fel unrhyw weithgarwch bwriadol, esgeulustod, diffyg neu ymarfer arall sy’n niweidio cywirdeb y broses asesu, a/neu ddilysrwydd tystysgrifau. Gall camymddygiad gynnwys amrediad o faterion – o fethiant i gadw cofnodion neu systemau priodol, i ffugio cofnodion yn fwriadol er mwyn hawlio tystysgrifau. Gall methiant i ddelio ag unrhyw faterion a nodir fod yn gamymddygiad ynddo’i hun.
Y grwpiau y mae angen eu cynnwys
Rhaid i’r weithdrefn ar gyfer ymchwilio i achosion o Gamymddygiad a amheuir gynnwys y grwpiau canlynol mewn Canolfan Gydnabyddedig:
- camymddygiad dysgwr
- camymddygiad staff canolfan
Yr egwyddorion
Yr egwyddor sylfaenol mewn ymchwiliadau yw eu cynnal mewn modd teg, rhesymol a chyfreithiol, gan sicrhau bod yr holl dystiolaeth berthnasol yn cael ystyriaeth ddiduedd.
Cynhelir y broses ymchwilio gydag ystyriaeth i’r canlynol:
- cyfrinachedd
- cadw a storio tystiolaeth
- casgliadau a gyrhaeddir a chamau cywiro i’w cymryd.
Cysylltiadau defnyddiol
Polisi Camymddygiad
Polisi Asesu Teg
Polisi Ymholiadau, Apeliadau a Chwynion
