Cynnig darpariaeth Agored Cymru
Os hoffech gael gwybod mwy am weithio gydag Agored Cymru, llenwch ffurflen ymholiad cychwynnol, sydd i’w chael ar y wefan yma. Bydd angen i chi gofrestru ar wefan Agored Cymru cyn y gallwch fynd at y ffurflen ymholiadau ar-lein. Os byddai’n well gennych gael sgwrs anffurfiol cyn llenwi’r ffurflen, ffoniwch 02920 747866 neu 01248 670011 a gofynnwch am aelod o’r tîm Datblygu Busnes.
Mae’r ffurflen hon yn caniatau i ni gasglu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn sefydlu a yw gweithio gydag Agored Cymru yn addas i’ch sefydliad chi. Mae’r ffurflen yn cael ei llenwi a’i chyflwyno ar-lein. Bydd angen gwybodaeth am y canlynol arnoch i lenwi’r ffurflen:
- person cyswllt y ganolfan
- gwybodaeth am y ganolfan ee math o sefydliad, statws cyfreithiol ayyb
- y math o ddarpariaeth rydych yn ymgeisio amdani, ee grwp targed, nifer y dysgwyr a ragwelir, meysydd pwnc, cyllid
- adnoddau
- unrhyw drefniadau sicrhau ansawdd presennol
- trefniadau partneriaeth
Gallwch fynd at y ffurflen ar ôl cwblhau proses gofrestru syml. Ar ôl cyflwyno’r ffurflen ymholiad cychwynnol, bydd aelod o’r tîm Datblygu Busnes yn cysylltu â chi i drafod y cais.
