Llawlyfr Canolfannau

Cymwysterau Agored Cymru

Prif swyddogaeth Agored Cymru yw bodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru, na fyddai cyrff dyfarnu eraill yn gallu eu bodloni’n rhwydd.  Mae hyn yn adeiladu ar hanes llwyddiannus o ymateb mewn modd rhagweithiol i’r agenda addysg yng Nghymru, yn enwedig lle bo’n wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr.

Bydd Agored Cymru yn datblygu cymwysterau a fydd yn ymateb i anghenion addysg/hyfforddiant penodol dysgwyr yng Nghymru.  Datblygir cymwysterau mewn ymateb i flaenoriaethau strategol cenedlaethol a rhanbarthol  ymgynghorir â rhanddeiliaid ac aelodau allweddol er mwyn sicrhau bod y datblygiadau’n ymatebol ac effeithiol o ran diwallu anghenion Cymru.  Lle nodir cyfleoedd ar gyfer datblygu cymwysterau, sydd hefyd yn bodloni anghenion canolfannau mewn rhannau eraill o’r DU, bydd Agored Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff dyfarnu eraill i ddatblygu a chyflwyno’r rhain i’r Rheolyddion Cymwysterau.

  • Yn unol â’i genhadaeth, bydd Agored Cymru yn datblygu cymwysterau Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) ar gyfer dysgwyr yng Nghymru sy’n ymgymryd â datblygiad personol, cymdeithasol a galwedigaethol ac yn:
    • datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle neu gyda’u teulu a gwella’u dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru
    • yn ceisio sgiliau ‘Dychwelyd i waith’ yn llwyddiannus
    • yn anelu at ‘ddychwelyd i ddysgu’ gan gynnwys mynd i Addysg Uwch
    • yn ceisio hyblygrwydd a chydnabyddiaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
    • wedi ymddieithrio neu’i difreinio
    • rhai â sgiliau lefel isel sydd angen dysgu sydd wedi’i anelu at eu hanghenion penodol, a allai gynnwys sgiliau galwedigaethol a sylfaenol
    • angen anogaeth a chefnogaeth i ail ymgysylltu â dysgu
    • yn ceisio gwella sgiliau penodol yn wyneb newidiadau gwaith, dilyniant mewn gwaith neu ddysgu

Proses Datblygu Cymwysterau Newydd

(hyperlink to list of approved qualifications nocn and Agored Cymru to be inserted)
(hyperlink to list of qualifications currently under development to be inserted)

Fframwaith Credydau a Chymwysterau (QCF), Cymwysterau Galwedigaethol a’r Rhif Unigryw Dysgwr

Fframwaith yw QCF ar gyfer cydnabod ac achredu cymwysterau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio gyda’r system cymwysterau galwedigaethol yn ganolbwynt iddo, i’w gwneud yn haws ei ddeall a’i ddefnyddio, yn fwy cynhwysol, yn fwy perthnasol i anghenion cyflogwyr ac yn fwy hyblyg a hygyrch i ddysgwyr.

Bydd angen i unrhyw Ganolfannau Cydnabyddedig sy’n cyflwyno cymwysterau galwedigaethol drwy’r QCF gofrestru gyda MIAP fel Cyrff Cofrestru Dysgwyr a chael Rhifau Unigryw Dysgwyr (ULN) ar gyfer eu dysgwyr i’w galluogi i ymgymryd â chymhwyster.

Disgrifir y broses gofrestru i’w dilyn yma.

Cysylltwch ag Agored Cymru neu ewch i www.agored.org.uk i gael rhestr o gymwysterau sydd wedi’u hachredu drwy’r QCF ac sy’n gofyn am gofrestru.

Cysylltwch ag Agored Cymru i gael mwy o wybodaeth a chymorth.