Llawlyfr Canolfannau

Ailgyflwyno Tystysgrifau i Ganolfannau

Rhaid cyflwyno ceisiadau i ailgyflwyno tystysgrifau yn ysgrifenedig drwy lythyr swyddogol neu e-bost.

Dylid cynnwys y manylion canlynol yn y cais swyddogol:

  • Enw llawn y dysgwr
  • Dyddiad geni
  • Rhif Adnabod Dysgwr RhCA neu Agored Cymru
  • Blwyddyn cwblhau’r cwrs/ cyfeirnod darparwr
  • Llwybr (os yn berthnasol i Fynediad i Addysg Uwch)
  • Manylion ar gyfer ailgyflwyno
  • Dychwelyd tystysgrif wallus (os yw’r dystysgrif i’w dychwelyd oherwydd gwall)

Ar ôl gwirio a chadarnhau manylion y dysgwr ar gronfa ddata Agored Cymru, bydd tystysgrif yn cael ei hailgyflwyno, gyda stamp ‘COPI DYBLYG’ er mwyn cydnabod mai copi yw hwn o’r dystysgrif wreiddiol, os cafodd honno ei cholli neu’i dinistrio.  Yna anfonir y copi o’r dystysgrif i’r ganolfan drwy ddanfoniad wedi’i gofnodi.

Caiff tystysgrifau eu hailgyflwyno ar gais, yn arferol o fewn 5 diwrnod gwaith.

Nodir y ffi am dystysgrif newydd yn y manylion ffioedd a phrisiau blynyddol.