Asesu
Mae asesu yn golygu sefydlu faint y mae dysgwr unigol neu grwpiau o ddysgwyr wedi’i ddysgu, a bydd yn cynnwys dysgwyr a thiwtoriaid/aseswyr. Mewn rhai achosion bydd y broses yn dechrau cyn i’r cwrs ddechrau ac yn parhau tan ar ôl iddo orffen.
Dysgu yw’r newid mewn sgiliau a/neu agwedd a/neu wybodaeth, a mesur y newidiadau hynny yw’r camau yn y broses asesu. Mae asesu yn golygu barnu tystiolaeth yn dangos bod dysgu wedi digwydd (gweithred o fesur) a chadarnhau bod canlyniad dysgu, neu ran o ganlyniad dysgu, wedi’i gyflawni.
Pam asesu?
Gall asesu fod yn brofiad cadarnhaol iawn i ddysgwyr. Maent yn aml yn gwerthfawrogi asesiad am ei fod:
- yn cadarnhau eu bod ar y cwrs cywir;
- yn hybu ac annog dysgu pellach;
- yn helpu dysgwyr i wybod sut maen nhw’n newid;
- yn caniatau iddyn nhw weld eu cynnydd;
- yn caniatau iddyn nhw ennill credydau/cymwysterau ac felly gael cydnabyddiaeth am yr hyn a gyflawnwyd;
- yn rhoi synnwyr o gyflawni
Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i gyflogwyr bod staff yn meddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a/neu sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â thasgau yn ddiogel ac effeithiol.
