Llawlyfr Canolfannau

Pwy all asesu?

Mae 4 categori o bobl a allai fod ynghlwm ag asesu dysgu unigolion: tiwtoriaid; dysgwyr, cyd-ddysgwyr; aseswyr allanol.

Mae angen i ganolfannau cydnabyddedig ein sicrhau bod gan staff sy’n asesu dysgu gymwysterau sy’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, neu â gofynion sefydliadau priodol, a allai ariannu neu arolygu ansawdd darpariaeth neu osod gofynion cysylltiedig â dyfarniad. Gallai’r sefydliadau hyn gynnwys :

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS)

Estyn

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi

Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH)

Cynghorau Sgiliau Sector

Y Loteri Genedlaethol

Llywodraeth Cymru

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Sut i Asesu

Bydd angen i diwtoriaid fod yn glir iawn ynghylch yr hyn a asesir o fewn y cwrs.  Ysgrifennir pob uned yn nhermau Canlyniadau Dysgu – yr hyn y bydd disgwyl i’r dysgwr ei wybod, ei wneud neu’i ddeall.  Rhaid cyflawni, arsylwi, asesu a chofnodi POB Maen Prawf Asesu ym mhob Canlyniad Dysgu.  Er bod yn rhaid asesu POB canlyniad dysgu, gall UN dasg asesu nifer o wahanol Ganlyniadau Dysgu ar unwaith.

e.e. mewn uned iaith ymddiddan, gellid asesu grwp o feini prawf asesu drwy ymarfer chwarae rôl:

Canlyniad Dysgu

Maen Prawf Asesu

Dull Asesu

5. Casglu gwybodaeth syml yn ymwneud â theithio a llety

MPA 5.1 Darllen amserlenni syml
MPA 5.2 Holi ynghylch prisiau tocynnau
MPA 5.Dilyn y drefn ar gyfer prynu tocynnau
MPA 5.4 Holi ynghylch amserau cyrraedd/gadael

 Asesir y cyfan drwy ymarfer chwarae rôl

Mae i bob canlyniad dysgu feini prawf asesu, sy’n diffinio’r lefel cyrhaeddiad y gall y dysgwr eu harddangos.  Felly gall unedau ar wahanol lefelau fod â’r un canlyniadau dysgu neu ganlyniadau dysgu tebyg iawn i’w gilydd, ond meini prawf asesu gwahanol iawn ar gyfer pob lefel.

(Disgrifyddion lefel QCF )

Dylai’r dysgwyr a’r tiwtoriaid gymryd rhan yn y broses asesu.  Mae’n bwysig i ddysgwyr fod yn ymwybodol o’r canlyniadau dysgu a’r meini prawf asesu arfaethedig.  Mae’n arfer da i rannu’r rhain gyda’r dysgwyr yn llafar a gweledol (taflenni, fflipsiartiau ayyb.