Llawlyfr Canolfannau

Ffurfiau Asesu

Dylai Asesu fod:

  • Yn agored a thryloyw;
  • Yn barhaus, ac nid rhywbeth munud olaf ar ddiwedd cwrs;
  • Yn ddibynadwy a thrylwyr;
  • Yn berthnasol i’r grwp targed;
  • Yn ddigonol i ddarparu digon o dystiolaeth i fodloni’r Maen Prawf Asesu.

Dylai’r dulliau asesu a ddewisir fod yn berthnasol, gan adlewyrchu anghenion y grwp.  Mae’n arfer da i sicrhau bod gan ddysgwyr gopïau o’r Canlyniadau Dysgu a’r Meini Prawf Asesu fel eu bod yn ymwybodol o’r disgwyliadau. Gall hyn gynnwys egluro sut y gall dysgwyr gyflawni ar wahanol lefelau.

Dylai unrhyw strategaeth asesu gynnwys amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n briodol i’r grwp targed, e.e.

  • Arsylwi gweithgareddau sy’n digwydd yn naturiol, ee chwarae rôl, efelychiadau, gweithgareddau ymarferol, perfformiad, arddangosiad ayyb.
  • Trafodaethau, yn amrywio o sgyrsiau anffurfiol strwythuredig i drafodaethau dan arweiniad.
  • Cynhyrchu arteffactau, lluniadau ayyb.
  • Tasgau strwythuredig, ee prosiect, traethawd, astudiaeth achos, aseiniad.
  • Arholiad/prawf.
  • Dyddiadur/dyddlyfr/llyfr log.

Diffiniadau Asesu NOCN

Diffiniadau Asesu Lefel 4 ac Uwch

 

Asesu Anffurfiol / Ffurfiol

Mae asesu anffurfiol yn barhaus, integredig a hyblyg. Mae’n amrywiol, a gall fod yn asesu gan y tiwtor neu’r dysgwr – gall gynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

Asesu anffurfiol, heb fod ar bapur Asesu anffurfiol ar bapur
Gemau Rhestr wirio hunanasesu
Trafodaeth anstrwythuredig Dyddlyfr dysgu
Sgwrs Cwestiynau ac atebion ysgrifenedig
Cwestiynau ac atebion Taflen llenwi’r bylchau
Chwarae rôl Cynlluniau gweithredu

Asesu Ffurfiol - mae’n strwythuredig, fel arfer yn digwydd dan amodau a nodwyd yn glir, ac fe’i defnyddir fel rheol ar gyfer asesu crynodol, ee amser penodol i roi cyflwyniad neu ymgymryd â thasg ymarferol

Asesu ffurfiol heb fod ar bapur Asesu ffurfiol ar bapur
Gweithgaredd ymarferol Rhestr wirio
Trafodaeth strwythuredig Taflenni gwaith
Cwestiynau & Atebion Ffurflenni cais
Arddangosfa Traethodau
Prawf llafar Arholiad/prawf
Perfformiad Aseiniadau
Tiwtorial Prosiectau
Aseiniadau Dyddiadur
Prosiectau  

Dylai asesu o fewn darpariaeth Agored Cymru olygu:

  • Defnyddio meini prawf asesu yn drylwyr, ar y lefelau priodol, ee Mynediad, Lefel Un, Lefel Dau, neu Lefel 3.
  • Proses safoni i sicrhau cysondeb ar draws: ddiddordebau; safleoedd ac unedau er mwyn bodloni safonau.

Dylai asesu bob amser fod:

  • Yn wreiddiol
  • dilys/digonol
  • Dibynadwy a chyson
  • Addas i’r diben
  • Cynhwysol

Dilysrwydd Tystiolaeth

Rhaid i bob ymarfer asesu fod â phrosesau wedi’u sefydlu i sicrhau mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r dystiolaeth i’w hasesu. Polisi llên-ladrad http://www.agored.org.uk/getfile.aspx?fileid=355)

Dylai tiwtoriaid a Dilyswyr Mewnol fod yn ymwybodol bob amser o’r angen i gadarnhau dilysrwydd gwaith dysgwyr.  Mae hyn wedi dod yn gynyddol bwysig gyda dyfodiad a’r defnydd cynyddol o Dechnoleg Gwybodaeth megis Prosesu Geiriau, y Rhyngrwyd, Mewnrwydi a CD, sydd wedi cyfrannu i’r risg o lên-ladrad a chopïo.

Er ei bod bron yn amhosibl cael gwared â phob cyfle ar gyfer llên-ladran a chopïo, mae modd cymryd camau i leihau’r risg i hynny ddigwydd:

  • Dylai fod gan bob canolfan ddatganiad llên-ladrad a dylai pob dysgwr fod yn ymwybodol o’r polisi a’r oblygiadau
  • Dylid cynnwys datganiad yn cadarnhau dilysrwydd y gwaith yn ffeil neu bortffolio’r dysgwr, yn enwedig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth
  • Dylai pob ymarfer Technoleg Gwybodaeth printiedig fod wedi’i lofnodi gan y dysgwr.  Dylai’r tiwtor hefyd lofnodi os gall gadarnhau mai gwaith y dysgwr ei hun ydyw.
  • Dylid cadw copi drafft o waith lle bynnag y bo modd.  Ar wahân i nodi dilysrwydd, dylid annog yr arfer hon am ei bod yn dystiolaeth o ddatblygu a chynllunio darn mwy o waith neu draethawd.
  • Dylid ymchwilio os yw gwaith dysgwr, neu adrannau o fewn darn o waith yn wahanol iawn o ran lefel, tôn neu eirfa i enghreifftiau eraill o waith blaenorol.  Lle bo’n briodol, dylid cyflwyno dysgwyr yn gynnar i system dderbyniol o gyfeirio, fel y gellir cyfeirio’n briodol at ffynonellau allanol
  • Yn achos asesu llafar (ee cyrsiau iaith ymddiddanol) dylai’r tiwtor gadw unrhyw dapiau sain, a rhoi cadarnhad i’r Dilysydd Mewnol ynghylch pwy yw’r dysgwr neu’r dysgwyr dan sylw.
  • Dylai’r tiwtor gadarnhau bod arteffact wedi’i gynhyrchu gan ddysgwr penodol 

Dilysrwydd Tystiolaeth

Dylai strategaethau asesu gyfateb yn glir i’r meini prawf asesu.  Dylai fod cysylltiad agos rhwng y dulliau asesu a’r canlyniadau dysgu:

ee, os mai’r maen prawf asesu yw ‘Arddangos sut i ddefnyddio ysgolion yn ddiogel’ yna NI fyddai traethawd yn disgrifio sut i ddefnyddio ysgolion yn ddiogel yn ddull asesu dilys, ond byddai asesiad ymarferol yn ddilys

Digonolrwydd / Addasrwydd i’r diben

Rhaid i’r strategaeth asesu fod yn briodol a pherthnasol i’r grwp targed o ddysgwyr a chyd-destun y dysgu.  Rhaid i’r asesu fod yn briodol i’r gwerth credyd, hy byddai traethawd 2000 o eiriau yn ormodol ar gyfer uned Lefel 1 gyda 3 chredyd.  (gweler diffiniadau asesu NOCN).  Os yw maen prawf asesu yn nodi nifer benodol, ee pobi 3 cacen, dylai fod tystiolaeth i ddangos bod hyn wedi’i gyflawni.