Llawlyfr Canolfannau

Cydnabod Canolfan

Os ydych am gynnig unedau a chymwysterau Agored Cymru, bydd angen i chi wneud cais am gydnabyddiaeth fel canolfan.  Mae’r broses cydnabod canolfan  yn ystyried a yw gweithdrefnau eich sefydliad’yn addas i'r pwrpas ac yn gallu cynnal asesu trylwyr, datblygu cwricwlwm, sicrwydd ansawdd mewnol a gweinyddu darpariaeth achrededig. Disgwylir i chi hefyd ddarparu gwybodaeth i ni am eich sefydliad a’i strwythur yn ogystal â'r staff allweddol a fydd yn gyfrifol am ddarpariaeth Agored Cymru. Disgwylir i bob canolfan lofnodi cytundeb canolfan Agored Cymru cyn y bydd yn cael cyflenwi unrhyw rai o unedau neu gymwysterau Agored Cymru.
Mae Agored Cymru yn adolygu pob ymholiad cychwynnol gan sefydliad sy'n dangos diddordeb mewn cynnig ein cynnyrch ac yn asesu ymarferoldeb parhau â’r cais am gydnabyddiaeth fel canolfan. Bydd y drafodaeth yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • cwricwlwm arfaethedig eich sefydliad’(gan gynnwys y meysydd sector, yr unedau a’r cymwysterau  rydych yn bwriadu eu cynnig);
  • rhagamcan o niferoedd y dysgwyr a'r credydau;
  • profiad ac arbenigedd staff eich sefydliad’ o ran asesu a chyflenwi dysgu ar sail credydau.

Yn dilyn yr adolygiad o’ch ymholiad cychwynnol a thrafodaeth, mae Agored Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch y llwybr sydd fwyaf addas ar gyfer eich sefydliad. Mae tri chanlyniad posib:

Y llwybr cydnabyddiaeth

 Os oes gan eich sefydliad chi'r potensial i ddod yn ganolfan Agored Cymru, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais am gydnabyddiaeth fel canolfan.  Bydd y cais yn cael ei asesu ar sail gofynion Agored Cymru a gofynion rheoleiddiol. Rydym yn cynnig cymorth parhaus â'r cwricwlwm er mwyn helpu canolfannau i ddewis y gorau o blith cynnyrch Agored Cymru i ddiwallu anghenion y cwricwlwm.

Y llwybr partneriaeth

Os nad yw eich sefydliad yn bodloni’r meini prawf ar gyfer dod yn ganolfan gydnabyddedig ar hyn o bryd, efallai yr awgrymir cyfleoedd i sefydlu trefniant partneriaeth gyda chanolfan gydnabyddedig. Byddai hyn yn rhoi mwy o amser i chi lunio systemau ac yn cynnig profiad o weithio â darpariaeth achrededig.

Cydnabyddiaeth ohiriedig

Os nad yw eich sefydliad yn bodloni’r meini prawf ar gyfer dod yn ganolfan gydnabyddedig ar hyn o bryd ac os nad oes modd gwneud unrhyw drefniadau partneriaeth priodol, efallai yr awgrymir eich bod yn ymgymryd â datblygu pellach cyn y gellir ailystyried eich cais.

Ar gyfer safonau gwasanaeth sy’n berthnasol i ymholiadau newydd ewch i yma

Os ydych yn anfodlon ar y llwybr a bennwyd ar gyfer eich sefydliad gallwch ddefnyddio gweithdrefn Ymholiadau, Cwynion ac Apeliadau Agored Cymru i apelio yn erbyn y penderfyniad (Proses Apelio) .

Mae’r safonau gwasanaeth sy’n berthnasol i'r weithdrefn gwyno i'w gweld yn yma.

Ffioedd am gael cydnabyddiaeth fel canolfan

 

Aelodau*

Sefydliadau nad ydynt yn aelodau

Cydnabyddiaeth fel canolfan

£750

£1100

Partneriaeth

Dim ffi – caiff sefydliadau eu cyfeirio at bartneriaid posib

Anfonir anfoneb atoch ar gyfer ffioedd am gael cydnabyddiaeth fel canolfan ar ôl i ni dderbyn eich cais am gydnabyddiaeth fel canolfan.