Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)
Mae Agored Cymru yn anelu at alluogi dysgwyr i osgoi dyblygu dysgu ac asesu. Gellir cyflawni hyn wrth gynnig cyfleoedd i ddysgwyr drosglwyddo credydau, hy i adnabod cyrhaeddiad a achredwyd yn flaenorol o fewn neu o’r tu allan i’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) i gyfrif tuag at gymhwyster arall. Fel arall, gall dysgu neu gyrhaeddiad sydd heb ei ardystio neu’i achredu gael ei asesu a’i ddilysu yn rhan o’r broses RPL ac yna gyfrif tuag at y cymhwyster.
Gall dysgwyr hawlio RPL yn erbyn uned gyfan neu sawl uned. Nid yw’n bosibl dyfarnu unedau rhannol, ond lle nad yw’r dystiolaeth RPL yn bodloni gofynion uned gyfan yn llawn, gellir darparu’r wybodaeth sydd ar goll drwy’r un prosesau asesu ag y mae grwp o ddysgwyr yn ymgymryd a hwy yn y dosbarth.
Mae’n ofynnol i ganolfannau ddatblygu prosesau i gefnogi dysgwyr, aseswyr a dilyswyr mewnol i ddefnyddio RPL yn effeithiol. Rhagor o wybodaeth: Polisi a Gweithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL).
Dylid hysbysu Agored Cymru ynghylch unrhyw hawlio eithriad credyd yn llwyddiannus neu gydnabod dysgu blaenorol trwy ddefnyddio’r ffurflen hon: Ffurflen RPL.
