Llawlyfr Canolfannau

Dilysu mewnol

Mae dilysu mewnol yn rhan hanfodol o system sicrhau ansawdd canolfan a rhaid i ganolfannau fod â phroses dilysu mewnol gadarn ac effeithiol yn ei lle i gwrdd â gofynion rheoleiddio Agored Cymru. Mae Agored Cymru’n cadw’r hawl i atal neu dynnu’n ôl unrhyw raglen, sector a/neu uned/cymhwyster os canfyddir trefniadau dilysu mewnol annigonol yn unol â gofynion rheoliadol. Mae dilysu mewnol yn:

  • broses sy’n ceisio sicrhau y caiff pob dysgwr ei asesu’n gywir, yn deg ac yn gyson i’r safon ofynnol;
  • adolygiad parhaus o bob proses gysylltiedig o ddatblygu cwrs i ymgeisio/argymhelliad am ddyfarnu credyd(au)/cymhwyster/cymwysterau;
  • modd o hyrwyddo arfer da;
  • modd o ddiogelu safonau.


Dilyswyr mewnol

Mae’n rhaid i ddilyswyr mewnol gael:

  • gwybodaeth dda am unedau a chymwysterau Agored Cymru yn y sector(au) a ddewiswyd;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth dda o ofynion asesu Agored Cymru;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth dda o ofynion dilysu mewnol Agored Cymru.

Rhaid i ddilyswyr mewnol fod yn gyfarwydd â lefel yr uned(au)/cymhwyster/cymwysterau sy’n cael eu cyflwyno a rhaid iddynt feddu ar wybodaeth a/neu brofiad penodol i bwnc y cwrs sy'n cael ei ddilysu'n fewnol. Ar hyn o bryd nid oes angen i ddilyswyr mewnol fod â chymhwyster ffurfiol mewn dilysu mewnol i ddilysu unedau a/neu gymwysterau Agored Cymru’n fewnol, oni ddatgenir hynny yng nghanllawiau’r cymhwyster neu feini prawf yr uned. Fodd bynnag, mae Agored Cymru’n argymell yn gryf bod dilyswyr mewnol yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol.


Proses dilysu mewnol

Rhaid i’r broses dilysu mewnol mewn canolfannau gynnwys, fan leiaf:

  • proses gynlluniedig ar gyfer dilysu mewnol sy’n ymgorffori holl ddarpariaeth Agored Cymru a/neu NOCN y ganolfan;
  • adolygiad cyn-cyflwyno unedau/cymwysterau i sicrhau eu bod yn cael eu cymeradwyo ar hyn o bryd gan Agored Cymru ac yn addas i’r pwrpas;
  • adolygiad mewnol cyn-cyflwyno o ddeunyddiau asesu, tasgau a dulliau asesu;
  • cynllun samplo a strategaeth glir;
  • dilysu mewnol ffurfiannol (ynghanol cwrs) o benderfyniadau asesu;
  • dilysu gweithgareddau ymarferol yn fewnol;
  • dilysiad mewnol cyfunol (diwedd cwrs) o benderfyniadau asesu;
  • cofnodion bod pob cam gweithredu gofynnol yn dilyn dilysu mewnol wedi’u cwblhau;
  • cofnodion o bob cam yn y broses dilysu mewnol;
  • safoni gwaith a aseswyd;
  • gwerthuso’r broses dilysu mewnol yn rheolaidd.


Canllawiau i Ddilysu Mewnol

Mae Agored Cymru wedi datblygu ‘Canllawiau i Ddilysu Mewnol’ sy’n ymgorffori holl gamau allweddol y broses dilysu mewnol ac yn cynnwys enghreifftiau o systemau cofnodi y gellir eu teilwra i gwrdd ag anghenion canolfannau.

 

Cwestiynau cyffredin

  1. Pam fod dilysu mewnol yn bwysig?
  2. Beth sy’n digwydd os na fydd canolfan wedi dilysu’n fewnol pan fydd dilysu allanol yn digwydd?
  3. A gaiff dilyswyr mewnol ddilysu eu gwaith eu hunain yn fewnol?
  4. A gaiff canolfan ddibynnu ar un dilysydd mewnol?
  5. A oes angen iddilyswyr mewnol fod â chymhwyster dilysu mewnol cydnabyddedig i ddilysu unedau a chymwysterau Agored Cymru’n fewnol?
  6. A oes angen iddeunyddiau asesu, tasgau a dulliau gael eu dilysu’n fewnol cyn iddynt gael eu rhoi i ddysgwyr?
  7. Pam fod angen i ganolfannau ddilysu cyflawniad dysgwyr yn fewnol ran o’r ffordd drwy’r cwrs?
  8. A oes angen i ganolfannau ddilysu’n fewnol holl gyflawniadau dysgwyr 100%?
  9. A oes angen i ganolfannau fod â pholisi a/neu drefn dilysu mewnol wedi’i dogfennu?
  10. A oes angen i ganolfannau gofnodi’r dilysu mewnol sy’n digwydd?
  11. A oes gan Agored Cymru enghreifftiau y gellir eu defnyddio i gofnodi’r dilysu mewnol sy’n digwydd?
  12. A oes unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi Agored Cymru y gall staff canolfannau eu mynychu i ddod yn ddilyswyr mewnol?
  13. Sut all canolfannau ddysgu mwy am ddilysu mewnol?