Camymddygiad
Beth yw camymddygiad?
“Mae camymddygiad yn golygu diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau yn ymwneud â gweithdrefnau asesu a all effeithio ar gywirdeb cymhwyster neu ddyfarniad credyd”
Mae Agored Cymru yn ymroddedig i ymagweddu at asesu a dyfarnu credyd mewn modd teg, cyson a chywir, gan weithio â chanolfannau i gyflawni hynny.
Nid yw Agored Cymru yn goddef camymddygiad neu ymgais at hynny gan ddysgwyr, canolfannau na staff cysylltiedig â dyfarnu unedau neu gymwysterau Agored Cymru. Gall Agored Cymru osod sancsiynau ar ganolfannau, staff neu ddysgwyr lle cafwyd camymddygiad neu ymgais at hynny neu yn ystod ymchwilio i gyhuddiadau o gamymddygiad.
Beth mae angen i fy nghanolfan i ei wneud ynghylch camymddygiad?
Mae Agored Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau fod yn effro i gamymddygiad wrth asesu, a bod yn agored a phrydlon wrth hysbysu Agored Cymru, y rheolyddion, a lle’n briodol, gyrff dyfarnu eraill ynghlch achosion posibl. Mae Agored Cymru yn disgwyl i ganolfannau weithio gyda hwy i sefydlu proses ymchwilio briodol, a all fod dan arweiniad Agored Cymru neu reolwr y ganolfan, gan ddibynnu ar natur a difrifoldeb y camymddygiad honedig.
Mae’n ofynnol i ganolfannau fod wedi sefydlu polisi camymddygiad, wedi’i gymeradwyo gan Agored Cymru yn rhan o’r broses o gydnabod canolfan, i sicrhau y cymerir camau priodol i adnabod camymddygiad a hysbysu Agored Cymru a’r rheolydd yn brydlon. Cyfrifoldeb canolfannau yw hyfforddi staff i gynnal asesiad teg a chadarn, sicrhau wrth asesu, mai gwaith ei hun yw gwaith y dysgwr, monitro trwy ddilysu mewnol cadarn bod asesu’n cael ei wneud yn briodol a chefnogi rôl y Dilysydd Allanol fel cynrychiolydd Agored Cymru sy’n sicrhau dilysrwydd dyfarniad unedau neu gymwysterau.
Dylid defnyddio ffurflen Agored Cymru (Hysbysu ynghylch Amheuaeth o Gamymddygiad) os amheuir camymddygiad ) (Polisi a gweithdrefn Camymddygiad)
Cliciwch yma i fynd at y ffurflen ar gyfer hysbysu Agored Cymru am unrhyw gamymddygiad a amheuir.
