Llawlyfr Canolfannau

Ar ôl i Agored Cymru gadarnhau bod gan eich sefydliad y potensial i fod yn ganolfan gydnabyddedig, dylech lenwi'r ffurflencydnabyddiaeth fel canolfan ar-lein.

Bydd un o Reolwyr Sicrwydd Ansawdd Agored Cymru yn cysylltu â chi i egluro’r camau nesaf ac i'ch cefnogi drwy'r broses.  Rhaid i chi lenwi hunanwerthusiad sy'n rhoi tystiolaeth o sut mae eich sefydliad yn bodloni safonau’Agored Cymru a bod y gweithdrefnau a'r polisïau angenrheidiol yn eu lle. Mae pecyn cymorth ar gael yma i’ch helpu i gwblhau'r cais. Darllenwch y pecyn hwn cyn dechrau llenwi'r cais.

Bydd Agored Cymru yn adolygu eich cais ac efallai y bydd yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol.  Os nad yw eich sefydliad yn bodloni safonau Agored Cymru ar gyfer cydnabyddiaeth fel canolfan, rhoddir camau i chi eu rhoi ar waith cyn ailgyflwyno eich cais. Os nad ydych yn rhoi sylw i'r camau hyn, bydd eich cais am gydnabyddiaeth fel canolfan yn cael ei wrthod. Os gwrthodir cais sefydliad, mae'n dal yn bosibl i'r sefydliad dan sylw fynd ar drywydd trefniant partneriaeth gyda chanolfan syn bodoli eisoes i gyflenwi darpariaeth Agored Cymru.