Llawlyfr Canolfannau

Cadarnhad o Gydnabyddiaeth fel Canolfan

Pan fydd Agored Cymru yn fodlon eich bod wedi darparu digon o dystiolaeth i fodloni'r safonau ar gyfer cydnabyddiaeth fel canolfan, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a byddwn yn anfon copi o'r cytundeb ar gyfer canolfannau atoch i'w lofnodi a'i anfon yn ôl atom. Ni fyddwch yn gallu ychwanegu unedau a chymwysterau at fframwaith eich canolfan nac yn gallu dechrau cynnig cyrsiau Agored Cymru hyd nes y byddwn wedi derbyn y cytundeb canolfan gyda'ch llofnod arno.