Aelodaeth Agored Cymru
Sefydliad o aelodau yw Agored Cymru, sy’n rhannu ei genhadaeth a’i ethos dysgwr-ganolog.
Rhagdybir y bydd sefydliadau sy’n ymgeisio am gydnabyddiaeth fel canolfan hefyd yn ymgeisio i ddod yn aelod o Agored Cymru. Os NAD ydych yn dymuno ymgeisio am statws aelod, dylech lenwi’r adran berthnasol o’r cais i ‘eithrio’ o’r broses ymgeisio am aelodaeth.
Beth yw manteision bod yn aelod o Agored Cymru?
Agored Cymru:
- Yn cynnig cyfle i aelodau ethol ar gyfer nifer o leoedd ar y Bwrdd
- Mae’n cynhyrchu deunyddiau cyhoeddusrwydd a hyrwyddo i ddysgwyr, canolfannau, cyflogwyr a’r cyhoedd er mwyn gwella’u dealltwriaeth a’u gwerthfawrogiad o gredydau a chymwysterau.
- Mae’n cynnal neu gyfrannu i ddigwyddiadau i hyrwyddo credydau, dysgu anffurfiol, dysgu cynhwysol, ehangu cyfranogiad .
- Mae’n cynnig gwasanaeth ar gyfradd ratach i aelod-sefydliadau ac yn rhoi blaenoriaeth i aelodau sy’n archebu lle mewn cynadleddau a digwyddiadau eraill.
Sut gall aelodau o Agored Cymru ymgysylltu â’r broses lywodraethu?
- Mae gan bob aelod hawl i enwebu staff o’u sefydliad (neu aelod-sefydliadau eraill) i gael eu hystyried i’w hethol ar fwrdd Cyfarwyddwyr Agored Cymru.
- Mae gan bob aelod hawl pleidleisio (un bleidlais i bob sefydliad) a gallant fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac unrhyw Gyfarfod Cyffredinol Ychwanegol lle trafodir materion yn ymwneud â’r cyfansoddiad a llywodraethu’r sefydliad, gan ddod i benderfyniadau. Mae gan bob aelod hawl i enwebu un aelod o staff o’u sefydliad (neu o aelod-sefydliadau eraill) i gael eu hystyried ar gyfer eu hethol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Agored Cymru.
Beth yw’r cyfrifoldebau ynghlwm wrth fod yn aelod o Agored Cymru?
Rhaid i aelodau gytuno i’r canlynol:
- lle gall eu buddiannau fod yn groes i safonau a pholisi Agored Cymru, rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn ceisio defnyddio’u haelodaeth o Agored Cymru i ddylanwadu er gwaeth ar benderfyniadau ac ymarfer Agored Cymru
- gweithredu mewn materion cysylltiedig â’u haelodaeth o Agored Cymru gyda gwrthrychedd, tryloywder ac ymrwymiad cadarn i’r safonau ansawdd uchel sy’n nodweddu gweithgareddau Agored Cymru.
