Llawlyfr Canolfannau

Polisi Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Cwmpas

Mae’r ddeddfwriaeth bresennol ar wahaniaethu ar sail anabledd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl anabl sy’n dod o dan ddiffiniad y ddeddf, gan ei gwneud yn ofynnol i’w trin yn deg a chyfartal. Mae’r Ddeddf yn rhoi pwyslais penodol ar bobl anabl mewn sefydliadau addysg.

Y grwpiau y mae angen eu cynnwys

Bydd angen i’r polisi ystyried pob grwp a all ddod i gysylltiad â’r ganolfan. Cyfrifoldeb y Ganolfan yw adnabod y grwpiau priodol.

Yr egwyddorion

Bydd angen i bolisi canolfan ar Anabledd a Gwahaniaethu amlinellu’r trefniadau a’r strwythur rheoli a fydd yn weithredol er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd â’r cyfrifoldebau a nodir yn y ddeddfwriaeth gyfredol.

Cysylltiadau defnyddiol

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi canllawiau i gyflogwyr ar gwrdd â’u cyfrifoldebau o safbwynt Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, 1995.
Cyhoeddiad: Adjusting for Better Business.
                       Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth