Cyflwyno uned newydd i’w chymeradwyo (siart llif ar gyfer cymeradwyo uned )
Mae nifer o gamau allweddol i’w dilyn wrth ystyried ysgrifennu a chyflwyno uned newydd i’w chymeradwyo:
-
Sefydlu’r angen i ysgrifennu uned newydd. Bydd hyn yn golygu chwilio’n fanwl drwy gronfa ddata unedau Agored Cymru i gadarnhau nad oes uned addas eisoes yn bodoli. Mae’n bwysig siarad â’r tîm Datblygu Busnes er mwyn iddyn nhw hefyd allu chwilio mewn cronfeydd data eraill i weld a oes darpariaeth eisoes ar gael i fodloni eich hanghenion. Ni fydd Agored Cymru yn derbyn uned newydd os yw’n debyg neu’n gorgyffwrdd ag uned bresenol. Rhaid cyflwyno rhesymau manwl dros fod angen cyflwyno uned newydd, ar y dogfennau cais a gyflwynir i Agored Cymru.(Ffurflen Templed Unedau )
- Gwiriwch fod gennych gymeradwyaeth ar gyfer y maes pwnc a’r lefel i’w datblygu.
- Nodwch a oes angen yr uned yn Gymraeg, Saesneg neu yn Gymraeg a Saesneg.
- Ysgrifennwch unedau newydd yn y fformat a’r iaith briodol, gan ddilyn y canllawiau ar gyfer ysgrifennu unedau seiliedig ar gredydau a nodir mewn dogfennau a gyhoeddir gan QCA LlCC a CEA. (canllawiau ysgrifennu unedau QCF http://www.agored.org.uk/getfile.aspx?fileid=368).
- Mapiwch yr unedau i safonau perthnasol, ee Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, Safonau Iaith ayyb. (www.ukstandards.org.uk)
- Dilyswch unedau arfaethedig newydd yn fewnol cyn eu cyflwyno i Agored Cymru. Bydd hyn yn ffordd o sicrhau bod unedau wedi’u hysgrifennu’n dda ac yn cadarnhau eu bod yn diwallu angen penodol o fewn y ganolfan.
- Cyflwynwch unedau newydd gan ddefnyddio’r ffurflen gais briodol, sydd i’w chael ar wefan Agored Cymru. (Ffurflen Templed Unedau http://www.agored.org.uk/getfile.aspx?fileid=378) Safonau Gwasanaeth
Anfon uned newydd i’w chymeradwyo
Defnyddir y ddogfen uchod i gwblhau ceisiadau am unedau newydd ac fe’u cyflwynir drwy e-bost i Agored Cymru. Wrth dderbyn y ddogfen gais, bydd staff y tîm busnes yn edrych yn fanwl ar y fformat/adeiladwaith er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion yng nghanllawiau’r Awdurdod Rheoleiddio. Os bodlonir y gofynion cofnodir y dyddiad cyflwyno ac anfonir yr uned(au) i’w darllen gan ddarllenwyr arbenigol. Os na fodlonir y gofynion, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â chydymffurfio â’r canllawiau ar ysgrifennu unedau, dychwelir yr uned atoch i’w chywirio a’i hail gyflwyno.
Cymeradwyo unedau newydd
Yna anfonir yr uned at ddau ddarllenydd arbenigol, sy’n arbenigo mewn pwnc / sector penodol, neu, lle’n briodol, mewn math arbennig o ddarpariaeth, ee Sgiliau Sylfaenol neu Sgiliau Byw’n Annibynnol. Daw darllenwyr arbenigol o blith dilyswyr allanol neu adolygwyr ansawdd profiadol yn bennaf. Fodd bynnag, rhaid troi weithiau at arbenigwyr y tu allan i’r cylch hwnnw.
Bydd y darllenwyr arbenigol yn nodi sylwadau ac argymhellion ynghylch cynnwys, lefel, gwerth credyd a theitl yn ogystal â’r dulliau asesu opsiynol. . Rhoddir canllawiau ar lunio unedau i ddarllenwyr arbenigol.
Os yw cynnwys unedau yn cysylltu â sectorau galwedigaethol penodol, ceisir arweiniad gan y Cynghorau Sgiliau Sector perthnasol . Mewn rhai achosion cynhelir paneli ‘cymeradwyo/llywodraethu’ i gadarnhau cynnwys galwedigaethol uned, e.e. panel llywodraethu NLIAH. Bydd y modd y mae’r ganolfan yn mapio i safonau perthnasol megis Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael ei wirio o ran cywirdeb a pherthnasedd.
Bydd personel tîm ansawdd yn adolygu sylwadau gan y darllenwyr arbenigol, a all fod ar ffurf argymhellion neu amodau.
Hysbysu ynghylch sylwadau darllenwyr arbenigol
Os yw’r holl sylwadau ynghylch uned newydd yn rhai cadarnhaol a’r ddau ddarllenydd arbenigol yn argymell cymeradwyo’r uned ‘fel y mae’n sefyll’, bydd yn agored i’w harchwilio’n derfynol gan aelod o’r tîm Datblygu Busnes a dynodir cod ar gyfer yr uned cyn i chi gael eich hysbysu ei bod wedi’i chymeradwyo.
Os bydd un o’r darllenwyr, neu’r ddau yn nodi argymhellion a/neu amodau, anfonir y rhain atoch, i’w hystyried gennych. Fel arfer, derbynnir argymhellion neu amodau a nodir gan ddarllenwyr, ond proses ddwy ffordd yw hon, a gallwch egluro pam, yn eich barn chi, y mae sylwadau’n amhriodol. Agored Cymru fydd yn penderfynu’n derfynol ynghylch unrhyw ‘negodi’. Yn yr un modd, mae’r uned yn agored i gael ei harchwilio’n derfynol gan y tîm Datblygu Busnes cyn dynodi cod ar ei chyfer a hysbysu’r ganolfan ei bod wedi’i chymeradwyo. Fel rheol caiff unedau newydd eu cymeradwyo am gyfnod o 5 mlynedd, neu am oes y Safonau Galwedigaethol perthnasol. Adolygir eu cynnwys ar ôl hynny.
Os nododd darllenwyr fethiannau difrifol gyda chynnwys arbenigol, fe’i cyfeirir yn ôl ar gyfer gwaith pellach. Anfonir ymatebion atoch o fewn 30 diwrnod gwaith i dderbyn cais wedi’i baratoi’n briodol.
Yna cyhoeddir unedau cymeradwy yn Llyfrgell Unedau Agored Cymru, ac os yn briodol, fe’u cyflwynir i’w cynnwys o fewn FfCChC.
