Polisïau a Gweithdrefnau
Polisïau Cydnabod Canolfan: Canllawiau
Mae’r broses gydnabod yn ei gwneud yn ofynnol i’ch canolfan fod wedi sefydlu’r polisïau a’r gweithdrefnau canlynol i gefnogi’r systemau ansawdd :
- Mynediad at Asesiad Teg
- Gweithdrefnau Apelio i Ymgeiswyr
- Gweithdrefn Gwyno
- Polisi Gwahaniaethu ar sail Anabledd
- Polisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
- Polisi Iechyd a Diogelwch
- Polisi Dilysu Mewnol
- Gweithdrefn Camymddygiad
- Polisi Llên-ladrad
- Polisi Gwirio Cofnodion Troseddol (os yn gweithio gyda phobl ifanc neu oedolion agored i niwed)
- Polisi Iaith Gymraeg
- Polisi diogelu plant ac oedolion agored i niwed (os yn briodol)
- Gweithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol
- Polisi E-assesu(os yn briodol)
- Polisi Dysgu o Bell (os yn briodol)
- Gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer cofrestru dysgwyr, hysbysu ynghylch cyrhaeddiad, cadw gwybodaeth am ddysgwyr
- Gweithdrefnau cyflwyno a hyfforddi staff.
- Diogelu Data
Lluniwyd y canllawiau hyn i helpu Canolfannau i ddatblygu’r polisïau a’r gweithdrefnau angenrheidiol. Mae’r canllawiau’n gosod y disgwyliadau o ran yr hyn y dylid ei gynnwys yn y polisi neu’r weithdrefn. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y ganolfan yw datblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n adlewyrchu eu hamgylchiadau gweithredol a chwmpas eu cwricwlwm.
Ni luniwyd polisïau enghreifftiol gan na ellir cynnwys amgylchiadau gweithredol pob Canolfan.
Gall staff Agored Cymru roi cymorth ychwanegol gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau. Cyfrifoldeb y Ganolfan yw sicrhau:
- Bod polisïau a gweithdrefnau yn adlewyrchu maint a chwricwlwm y Ganolfan
- Bod polisïau a gweithdrefnau yn cael eu cyfleu i’r holl staff ac yn cael eu cefnogi gan strwythur rheoli y Ganolfan
- Bod system wedi’i sefydlu ar gyfer adolygu a gwerthuso polisïau a gweithdrefnau’r ganolfan yn rheolaidd
- Bod yna gydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau cyhoeddedig.
