Llawlyfr Canolfannau

Polisi diogelu plant ac oedolion agored i niwed

Cwmpas

Mae Agored Cymru yn cydnabod fod gan bob dysgwr hawl sylfaenol i gael eu hamddiffyn rhag niwed ac y dylent gael cyfle i elwa i’r eithaf o’u cyfleoedd addysg.

Mae Agored Cymru yn ymroi i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed ym mhob agwedd ar ei weithgareddau.

Y grwpiau y mae angen eu cynnwys

Ystyrir mai plentyn yw unrhyw un nad yw wedi cyrraedd eu deunawfed pen-blwydd.

Diffinnir oedolyn agored i niwed fel person deunaw oed neu hyn, ac sydd, neu a all fod angen gwasanaethau gofal cymunedol oherwydd anabledd meddwl neu fath arall o anabledd, oedran neu salwch ac sydd, nau a all fod yn anabl i ofalu amdano’i hun, neu’n anabl i’w amddiffyn ei hun rhag niwed arwyddocaol neu gamfanteisio.

Yr egwyddorion

Bydd yn ofynnol i ganolfannau cydnabyddedig gan Agored Cymru sy’n gweithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed:

  • Ddatblygu polisi diogelu yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol
  • Ddarparu hyfforddiant rheolaidd i staff er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r polisi, y trefniadau cyfeirio priodol a’r llinellau atebolrwydd wrth ddelio â materion diogelu.;

Cysylltiadau defnyddiol

Gwefan y Comisiwn Elusennau
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Diogelu Plant: Gweithio Gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004 (2006)

Llywodraeth Cynulliad Cymru | Mewn Dwylo Diogel: Rhoi gweithdrefnau amddiffyn oedolion ar waith yng Nghymru

Mewn Dwylo Diogel: Rhoi Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion ar waith yng Nghymru (2000)