Pryd i Asesu?
Cyn y cwrs/ar ddechrau’r cwrs
Ar rai cyrsiau mae asesiad diagnostig yn digwydd naill ai cyn i’r cwrs ddechrau neu yn y sesiwn gyntaf. Gall fod sawl pwrpas i hyn:
- Helpu’r tiwtor i gynllunio/addasu’r cwrs fel ei fod yn addas i’r dysgwyr;
- Helpu i benderfynu a yw’r cwrs yn addas i anghenion y dysgwyr, a’u cynghori ynghylch llwybrau gwahanol os oes angen;
- Annog dysgwyr i adnabod eu hanghenion eu hunain a darganfod lle maen nhw’n ffitio mewn perthynas ag eraill ar y cwrs;
- Helpu tiwtoriaid i adnabod arddulliau dysgu a meddwl unigol.
Yn ystod y cwrs – asesu ffurfiannol
Gellir defnyddio asesu yn ystod y dysgu i roi adborth a chefnogi cynnydd y dysgwr tuag at ganlyniadau a hysbysu’r dysgwr a’r tiwtor am unrhyw gamau sydd angen eu cymryd.
Bydd asesu ffurfiannol yn caniatau:
- i diwtoriaid sefydlu pa wybodaeth / sgiliau mae dysgwr wedi’u hennill;
- i diwtoriaid gynllunio’r camau nesaf;
- i diwtoriaid roi adborth priodol i ddysgwr;
- i diwtoriaid annog a symbylu’r dysgwr;
- i ddysgwr adnabod yr hyn a ddysgwyd a’r hyn y mae angen ei ddysgu.
e.e. byddai portffolio / dyddlyfr i gofnodi cynnydd yn enghraifft o asesu ffurfiannol.
Tua diwedd y cwrs – asesu crynodol
Gall asesu crynodol ddigwydd tua diwedd y rhaglen ddysgu neu ran o raglen ddysgu. Mae’r math yma o asesiad yn mesur y graddau i’r hyn mae dysgu wedi digwydd ar ddiwedd y profiad dysgu. Mae’n ffordd o farnu a yw’r dysgwr wedi cyflawni pob un o’r canlyniadau dysgu o fewn uned, ee portffolio cyflawn o holl waith y dysgwr neu asesiad unigol o feini prawf asesu dethol.
