Dogfennu Asesiad
Rhaid mapio tystiolaeth o gyrhaeddiad yn erbyn canlyniadau dysgu/meini prawf asesu penodol. Ni ellir dyfarnu credydau i ddysgwyr ar raglenni Agored Cymru am gwblhau rhan o uned. Cyflwynir y dystiolaeth hon i’r Dilysydd OCN i gadarnhau Dyfarnu Credyd i’r dysgwr/grwp o ddysgwyr.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o ffurfiau derbyniol o dystiolaeth sy’n hawdd eu croes-gyfeirio i feini prawf asesu o fewn unedau:
| Arteffactau | Barddoniaeth | Profion atebion byr |
| Tapiau sain/gweledol | Llyfrau gwaith/llyfrau log | Ymarferion ysgrifenedig |
| Ffotograffau | Portffolios | Nodiadau paratoi |
| Arddangosiadau | Rhestri gwirio | Siartiau/collage |
| Ymarferion dan gyfyngiadau amser | Proffil | Llun/diagram/cynllun |
| Arbrofion | Cynlluniau gweithredu | Gwerthusiadau/adborth |
| Dyddiadur | Dyddlyfr adfyfyriol | Nodiadau/Llyfrau braslunio |
| Prosiectau | Profion adnabod | Aseiniadau |
| Datganiadau gan dystion | Diagramau wedi’u labelu | Ymchwil |
| Cofnod mentora | Astudiaethau achos |
Mae’r canlynol yn ffurfiau o dystiolaeth sy’n dderbyniol y gall fod angen / y bydd angen cael rhestri gwirio/datganiadau tyst wedi’u llofnodi gan diwtor ar eu cyfer er mwyn sicrhau bod digon o dystiolaeth ar gael fel y gall y Dilysydd gadarnhau bod dysgwyr unigol wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd a chyflawni’r maen prawf asesu:
| Arsylwi gweithgareddau ymarferol | Trafodaethau |
| Profion Llafar | Cwestiynau ac atebion llafar |
| Gemau/cwisiau | Sgyrsiau/cyflwyniadau |
| Chwarae rôl/perfformiad/meim | Cyfweliadau |
| Efelychiadau | Arddangosiadau |
| Gwaith grwp | Sgyrsiau |
Dylai dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y mathau hyn o weithgarwch yn rhan o’r broses asesu gael eu hannog i gadw unrhyw nodiadau/cynlluniau paratoi ayyb a fydd yn gwneud y penderfyniadau asesu yn fwy dibynadwy a thryloyw. Dylai tystiolaeth BOB AMSER fod wedi’i chroes-gyfeirio’n glir i feini prawf asesu perthnasol.
Dylai tystiolaeth ar dâp neu fideo gynnwys cyflwyniad yn nodi’r uned a’r canlyniadau dysgu / meini prawf asesu y darperir tystiolaeth ar eu cyfer. Dylid nodi’r tiwtor a’r dysgwyr unigol wrth eu henwau.
Wrth ymdrin â thystiolaeth lafar mae’n hanfodol bod tiwtoriaid yn cadw cofnod parhaus o gyrhaeddiad pob dysgwr yn y grwp. Os bydd cofnodion asesu / cyrhaeddiad unigol yn mynd ar goll, dyma fydd yr unig brawf o gyrhaeddiad. Dylai dilyswyr mewnol samplo’r math yma o dystiolaeth trwy fynychu’r asesiad.
Mae’n bwysig i Diwtoriaid/cyd-gysylltwyr cwrs gofio y gellir addasu asesiadau gan gymryd anghenion y dysgwyr unigol i ystyriaeth, ee gellir rhoi disgrifiadau yn llafar os yw dysgwyr yn cael trafferth i roi gwaith i lawr ar bapur. Gall fod yn fuddiol siarad â’r Dilysydd Mewnol neu Allanol ynghylch addasu dulliau asesu ar gyfer anghenion dysgwyr. (Polisi Mynediad at Asesu Teg )
