Llawlyfr Canolfannau

Rôl y Dilysydd wrth Asesu

Mae dilyswyr yn cadarnhau’r dyfarniad credyd; NID y dilyswyr sy’n penderfynu ynghylch asesiad.

Mae dilysu mewnol yn cadarnhau bod sicrwydd ansawdd wrth baratoi, cyflwyno ac asesu’r rhaglen ac o ran y dogfennau a’r ardystio yn cydymffurfio â gweithdrefnau Agored Cymru.

Mae dilysu allanol yn sicrhau:

  • bod cysondeb rhanbarthol a chenedlaethol yn y modd y mae meini prawf asesu yn cael eu cymhwyso;
  • bod y safonau rheoleiddio wedi’u cymhwyso;
  • bod tiwtoriaid yn cael cyfle i drafod yr holl faterion sy’n gysylltiedig â rhedeg y rhaglen;
  • bod cyrhaeddiad ffiniol yn cael ei ddatrys;
  • bod tystiolaeth cyrhaeddiad yn bodloni’r safon asesu.