Llawlyfr Canolfannau

Safoni

Proses ar gyfer sicrhau bod penderfyniadau asesu a wneir am waith dysgwyr’ yn gyson yw safoni.

Rhaid i ganolfannau fynychu digwyddiad safoni Agored Cymru unwaith bob dwy flynedd.

Mae Agored Cymru yn cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau safoni bob blwyddyn er mwyn:

  • cymharu a chadarnhau safonau ar draws meysydd pwnc sectorau gwahanol;
  • cymharu a chadarnhau safonau ar draws gwahanol fathau o ganolfannau e.e. sefydliadau addysg bellach, ysgolion a mudiadau gwirfoddol;
  • cymharu a chadarnhau safonau lle defnyddir gwahanol fathau o asesiadau fel tystiolaeth o gyflawniad dysgwr e.e. holi ac ateb, cyflwyniadau llafar, arsylwadau ymarferol ayyb;
  • cymharu a chadarnhau safonau dros amser;
  • canfod a rhannu arferion da.

 

Safoni mewnol

Mae safoni mewnol yn elfen hanfodol o system sicrhau ansawdd fewnol gadarn. Rhaid i ganolfannau gynnal ymarferion safoni mewnol priodol i gadarnhau dibynadwyedd y penderfyniadau asesu mae pob tiwtor/aseswr yn ei wneud ym mhob safle. Mae ymarferion safoni mewnol yn rhoi cyfleoedd i staff rannu arferion da ar draws y ganolfan. Rhaid i safoni mewnol ddigwydd yng nghyswllt’ prosesau asesu pob canolfan er mwyn gwella cysondeb penderfyniadau’ aseswyr’/tiwtoriaid.

Rhaid i ymarferion safoni mewnol gynnwys yr holl diwtoriaid/aseswyr a dilyswyr mewnol sy'n gysylltiedig â darpariaeth Agored Cymru. Rhaid i dystiolaeth o ymarferion safoni mewnol fod ar gael at ddibenion sicrhau ansawdd allanol (h.y. adolygu ansawdd a dilysu allanol).

 

Cwestiynau cyffredin

1. Beth yw safoni?

Proses ar gyfer sicrhau bod penderfyniadau asesu a wneir am waith dysgwyr’ yn gyson yw safoni.

2. Beth sy'n digwydd yn nigwyddiadau safoni Agored Cymru?

Mae safoni yn gyfle i ganolfannau werthuso sampl o waith dysgwyr’ sydd wedi'i asesu ac i drafod a yw penderfyniadau asesu yn ddilys. Gall mynychwyr drafod a yw gwaith y dysgwyr’ a aseswyd yn bodloni: yr holl feini prawf asesu; yr holl ganlyniadau dysgu; y lefel benodedig; a gwerth credyd y cymhwyster / uned(au). Ymysg y meysydd eraill i'w trafod mae effeithiolrwydd y broses ddilysu fewnol, ansawdd tasgau a deunyddiau'r asesiad, a'r adborth mae dysgwyr wedi'i gael gan y tiwtoriaid/aseswyr. Caiff mynychwyr y cyfle i weithio â chynrychiolwyr canolfannau eraill er mwyn rhannu syniadau ac arferion da.

3. Pam mae'n rhaid i ganolfannau fynychu digwyddiadau safoni Agored Cymru?

Mae mynychu digwyddiadau safoni yn ofyniad ar ganolfannau. Mae'n gyfle gwych i gyfarfod â phobl o ganolfannau eraill sy'n cynnig cymwysterau/unedau tebyg ac i gyfnewid syniadau a rhannu arferion da.

4. Pa mor aml y mae'n rhaid i ganolfannau fynychu digwyddiadau safoni Agored Cymru?

Rhaid i ganolfannau anfon cynrychiolydd i ddigwyddiad safoni Agored Cymru unwaith bob dwy flynedd. Os nad yw canolfannau'n sicr a oes angen iddynt fynychu, dylent gysylltu â Laura Upton (Swyddog Sicrhau Ansawdd) yn y swyddfa yn Llanisien, sef: 02920 747866 neu laura.upton@agored.org.uk.

5. Pa mor aml y mae'n rhaid i Ddilyswyr Mewnol Cymeradwy (AIV) fynychu digwyddiadau safoni Agored Cymru?

Rhaid i bob AIV fynychu digwyddiad safoni Agored Cymru unwaith bob dwy flynedd er mwyn cadw eu statws fel dilyswyr mewnol cymeradwy. Bydd methiant i gydymffurfio â'r gofyniad hwn yn golygu y byddwch yn colli eich statws AIV. 

6. Sut mae canolfannau yn archebu lle yn nigwyddiadau safoni Agored Cymru?

Gall canolfannau archebu lle mewn digwyddiadau safoni drwy ddefnyddio'r ffurflen archebu ar-lein. Cliciwch yma i weld rhagor o fanylion neu i archebu lle mewn digwyddiadau sydd yn yr arfaeth.

7. A oes angen i ganolfannau anfon unrhyw beth i Agored Cymru cyn y digwyddiadau safoni?

Oes. Rhaid i ganolfannau gyflwyno (i Laura Upton yn swyddfa Agored Cymru yn Llanisien) sampl darllenadwy o waith dysgwyr sydd wedi cael ei asesu’ o leiaf 20 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad safoni. Rhaid i bob sampl a gyflwynir fod wedi bod drwy ’broses ddilysu fewnol y ganolfan a rhaid iddynt gynnwys y canlynol:

  • copïau o asesiadau cyflawn ynghyd â thystiolaeth ategol (lle bynnag y bo modd dylai'r rhain fod yn ddienw);
  • cofnodion o ddilysiad mewnol a gynhaliwyd cyn cyflwyno'r cwrs;
  • cofnodion o ddilysiad mewnol a gynhaliwyd hanner ffordd drwy'r cwrs / ar ddiwedd y cwrs;
  • copi o'r uned (au) perthnasol.

Nodwch os gwelwch yn dda na ddylai canolfannau anfon copïau gwreiddiol o’waith dysgwyr gan na fydd y samplau yn cael eu dychwelyd.

 

Os bydd darparu samplau yn achosi unrhyw broblemau i ganolfannau, mae'n hollbwysig eu bod yn rhoi gwybod i Laura Upton (Swyddog Sicrhau Ansawdd) o leiaf 20 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad safoni - 02920 747866 neu laura.upton@agored.org.uk.

8. Beth mae angen i ganolfannau ddod gyda nhw i ddigwyddiadau safoni Agored Cymru?

Mae Agored Cymru yn darparu popeth sydd ei angen mewn digwyddiadau safoni, gan gynnwys cinio i'r rhai sy'n mynychu. Os oes gan gynrychiolydd unrhyw ofynion deietegol, rhaid darparu manylion pellach ar y ffurflen archebu ar-lein.

9. Pa gymwysterau/unedau fydd yn cael eu safoni?

Agored Cymru sy'n dewis yr unedau/cymwysterau sydd i gael eu safoni. Bydd yr unedau a/neu'r cymwysterau a gaiff eu dewis yn adlewyrchu'r hyn sydd gan’ganolfannau Agored Cymru’ i gynnig. Mae Cadeirydd pob digwyddiad yn ceisio dewis samplau a fydd yn cynnig pwyntiau i'w trafod, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da.

10. Pam nad yw rhai meysydd pwnc sectorau (SSA) yn cael eu safoni eleni?

Mae Agored Cymru yn safoni pob SSA dros gylch o ddwy flynedd; felly, rhaid i ganolfannau edrych ar y wefan yn rheolaidd er mwyn archebu lle yn y digwyddiad priodol.

11. Oes modd i ganolfannau archebu digwyddiadau safoni pwrpasol?

Oes. Gall canolfannau archebu digwyddiad safoni pwrpasol a gaiff ei gadeirio gan un o reolwyr sicrwydd ansawdd Agored Cymru. Codir tâl ychwanegol am y digwyddiadau hyn. I drefnu digwyddiad pwrpasol, cysylltwch â Richard Pugh Jones (Rheolwr Datblygiad Proffesiynol) – 01248 670011 neu richardpugh.jones@agored.org.uk.

12. Sut mae canolfannau yn cael gwybod am ganlyniadau digwyddiadau safoni Agored Cymru?

Mae'r Cadeirydd yn llunio adroddiad sy'n cofnodi canlyniadau'r ymarfer safoni gan nodi unrhyw arferion da ac unrhyw ddiffygion a amlygwyd. Mae'r adroddiad ar gael i bob canolfan ar wefan Agored Cymru. Os amlygir unrhyw ddiffygion sylweddol, rhoir gwybod i'r rheolwr sicrhau ansawdd sy'n gyfrifol am y ganolfan a bydd hyn yn faes yr ymholir yn ei gylch mewn ymarfer sicrhau ansawdd allanol yn y dyfodol (h.y. adolygu ansawdd a dilysu allanol).

13. Pa mor aml y mae'n rhaid i ganolfannau gynnal ymarferion safoni mewnol?

Mae pa mor aml y cynhelir ymarferion safoni mewnol yn dibynnu ar brosesau ’ sicrwydd ansawdd mewnol canolfannau. Bydd hyn yn dibynnu ar ffactorau megis y canlynol:

  • maint y ganolfan;
  • faint o diwtoriaid/aseswyr a dilyswyr mewnol sydd gan y ganolfan;
  • faint o unedau a/neu gymwysterau sy'n cael eu cynnig yn y ganolfan;
  • ystod yr unedau a/neu'r cymwysterau a gyflwynir yn y ganolfan.
Rhaid i ganolfannau gynnal nifer briodol o ymarferion safoni a caiff hyn ei werthuso ar y cam sicrwydd ansawdd allanol (h.y. trwy gyfrwng y prosesau adolygu ansawdd a dilysu allanol).

 

14. Pwy sy'n gorfod bod yn bresennol yn yr ymarferion safoni mewnol?

Rhaid i bob tiwtor/aseswr a dilyswr mewnol sy'n gysylltiedig â chyflwyno cymwysterau a/neu unedau Agored Cymru neu â'r drefn sicrhau ansawdd fewnol fod yn bresennol mewn ymarferion safoni mewnol.

15. A oes angen i ganolfannau gofnodi canlyniadau ymarferion safoni mewnol?

Oes. Rhaid i ganolfannau gofnodi canlyniadau pob ymarfer dilysu mewnol. Rhaid i'r cofnodion hyn fod ar gael at ddibenion sicrhau ansawdd allanol (h.y. adolygu ansawdd a dilysu allanol).