Llawlyfr Canolfannau

Adolygiad Blynyddol Canolfan

Bydd adolygiad ansawdd blynyddol yn cael ei gynnal ar gyfer pob canolfan bob blwyddyn er mwyn sefydlu bod polisiau a gweithdrefnau yn cael eu gweithredu’n briodol i gadarnhau dyfarniad credyd.  Cytunir ar ddyddiadau penodol ar gyfer pob canolfan rhwng y ganolfan ac Agored Cymru.  Mae’r adolygiad ansawdd yn canolbwyntio ar:

  • Monitro cydymffuriad y ganolfan â’r cytundeb cydnabod canolfan;
  • Gwirio bod polisiau a gweithdrefnau yn cael eu cymhwyso’n briodol;
  • Monitro cydymffurfiad â chynlluniau gweithredu a chynlluniau gwella ansawdd blaenorol;
  • Adnabod unrhyw newidiadau ers yr adolygiad ansawdd diwethaf;
  •  adnabod unrhyw anghenion datblygu staff;
  • Cytuno ar gynllun gwellla.

Pennir cwmpas a dyfnder yr adolygiad ansawdd ar gyfer pob canolfan gan natur yr amodau a osodir yn yr archwiliadau blaenorol.   Mae’r broses hon yn rhoi cyfle i Agored Cymru gynnal adolygiadau traws ganolfan/sector o agweddau penodol ar ansawdd er mwyn goleuo gwella ansawdd ar draws y rhwydwaith, ac adnabod arfer da a ledaenir ymhlith canolfannau Agored Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, megis Estyn.

Bydd canlyniad yr adolygiad ansawdd yn cael ei drafod â’i gadarnhau gyda pherson cyswllt perthnasol y ganolfan, sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd.  Mae’r adolygydd ansawdd yn cynhyrchu Cynllun Gwella Ansawdd.

Os oes tystiolaeth nad yw dilysrwydd dyfarniadau / cymwysterau yn ddiogel mewn canolfan, gorfodir monitro ychwanegol, gan gynnwys dilysu allanol ychwanegol.   Mae tâl ychwanegol am hyn, i’w dalu gan y ganolfan.   
Gellir tynnu cydnabyddiaeth canolfan yn ôl mewn achosion lle mae pryderon yn parhau.

Safonau gwasanaeth