Unwaith y bydd eich sefydliad wedi derbyn cydnabyddiaeth fel canolfan bydd modd i chi weithio gydag aelod o'r tîm Datblygu Cwricwlwm i lunio 'fframwaith' neu becyn o unedau y gallwch eu cynnig i'ch dysgwyr. Gellir dewis cymwysterau a/neu unedau o sectorau a gymeradwywyd fel rhan o’r broses cydnabod canolfan.
Gall canolfannau ddefnyddio un ai unedau presennol neu gyflwyno unedau newydd am gymeradwyaeth i'w hychwanegu at eu fframwaith. Mae Agored Cymru yn annog canolfannau i edrych am unedau addas sy’n bodoli eisoes cyn cyflwyno unedau newydd.
Ychwanegu unedau a/neu gymwysterau presennol
Gellir ychwanegu unedau sy’n bodoli eisoes i fframweithiau drwy wefan Agored Cymru. Mae’r swyddogaeth ‘Basged Unedau’ yn caniatáu i ganolfannau greu casgliadau o unedau sydd ar gael i'w cyflwyno yn eu canolfan, gyda’i gilydd cyfeirir at yr unedau hyn fel fframwaith y ganolfan. Gallwch ychwanegu, gweld, arbed a thynnu unedau o’ch basged unedau, fel bo’n briodol, cyn eu cyflwyno i Agored Cymru. Pan fydd yr unedau wedi cael eu cymeradwyo anfonir e-bost i gadarnhau bod yr unedau wedi derbyn cymeradwyaeth.
Os gwelwch yn dda ewch yma i gael cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r fasged unedau.
Nodwch, os gwelwch yn dda, y gall unedau sy’n rhan o un o Gymwysterau Agored Cymru gael eu dyfarnu fel unedau “annibynnol”. Os cyflwynir yr unedau ar sail “annibynnol” byddant yn cyfrif tuag at gyflawni cymhwyster gan ddysgwr. Am y rheswm hwn, mae ein systemau yn ychwanegu’r cymhwyster cyfan i’ch fframwaith i alluogi dysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfan os dyfarnwyd yr holl unedau gofynnol.
Os byddwch yn ychwanegu uned sy’n rhan o gymhwyster QCF bydd ein system yn tynnu’ch sylw at y ffaith hon, ac yn eich hysbysu o’r cymhwyster (cymwysterau) cysylltiedig.
Mae ychwanegu cymwysterau at eich fframwaith yn broses syml iawn, cliciwch yma am fanylion.
