Diffiniad o uned
Uned yw’r rhan leiaf o gymhwyster y gellir ei ardystio ar wahân. Mae’n cynnwys canlyniadau dysgu a meini prawf asesu, gyda theitl, gwerth credyd a lefel.
Rhaid i bob uned a ddatblygir allu cael eu hasesu’n annibynnol ar unedau eraill.
Rhaid dynodi lefel ar gyfer pob uned, sy’n cynrychioli cymhlethdod y pwnc a’r math o ymreolaeth y bydd y dysgwr yn ei ddangos er mwyn cyflawni’r uned. Pennir y lefel trwy gymharu’r canlyniadau dysgu a’r meini prawf asesu yn erbyn disgrifiadau lefel Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) (Disgrifiadau lefel QCF .(Diagram Fframwaith FfCChC ).
Mae gwerth credyd uned yn dynodi nifer y credydau a ddyfernir i ddysgwr sy’n cyflawni pob canlyniad dysgu. Bydd hyn yn seiliedig ar un credyd ar gyfer canlyniadau dysgu y gellir eu cyflawni mewn 10 awr o ddysgu. Diffinnir amser dysgu fel yr amser cyfartalog a gymer i ddysgwyr ar lefel yr uned, gwblhau canlyniadau dysgu’r uned i’r safon a nodir yn y meini prawf asesu. Nid yw rhagori ar y gofynion a nodir yn y meini prawf asesu yn arwain at ddyfarnu mwy o gredydau i’r dysgwr gan fod y gwerth credyd wedi’i bennu cyn asesu.
