Polisi Gwirio Cofnodion Troseddol
Cwmpas
Mae’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), sef Asiantaeth Weithredol o’r Swyddfa Gartref, yn darparu mynediad ehangach at wybodaeth cofnodion troseddol drwy eu gwasanaeth Datgelu. Mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i wneud penderfyniadau mwy diogel wrth recriwtio, gan adnabod ymgeiswyr a all fod yn anaddas ar gyfer gwaith penodol, yn enwedig gwaith gyda phlant ac oedolion agored i niwed. Sefydlwyd y CRB o dan y ddeddfwriaeth gyfredol a’i lansio ym Mawrth 2002.
Y grwpiau y mae angen eu cynnwys
Yng nghyd-destun darpariaeth achrededig, bydd angen i’r polisi gyfeirio at bob math o staff Canolfan.
Yr egwyddorion
Bydd angen i ganolfannau, gan ddibynnu ar eu dysgwyr targed, ystyried yr angen am ddatgeliadau Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), gan ddibynnu a fydd unigolion yn ymwneud â gweithio gyda phlant ac oedolion. Bydd angen i’r polisi amlinellu’r trefniadau y mae’r Ganolfan yn bwriadu eu rhoi ar waith.
Cysylltiadau defnyddiol
Polisi Amddiffyn Plant ac Oedolion Agored i Niwed
Gellir cael mwy o arweiniad ar wefan y Swyddfa Cofnodion Troseddol: www.crb.gov.uk
