Polisi Asesu o Bell
Cwmpas
Mae’n ofynnol i ganolfannau sy’n bwriadu defnyddio prosesau asesu o bell ddatblygu polisi asesu o bell sy’n nodi pa mor ddiogel ac effeithiol fydd y technegau asesu a ddefnyddir gyda dysgwyr heb ddim neu fawr ddim cyswllt wyneb yn wyneb â thiwtoriaid.
Mae Agored Cymru yn ymroddedig i sicrhau bod arferion asesu arloesol, hygyrch a diogel yn cael eu defnyddio er mwyn caniatau i ddysgwyr ddangos eu cyrhaeddiad mewn ffordd effeithiol.
Y grwpiau y mae angen eu cynnwys
Staff canolfannau sy’n gyfrifol am ddatblygu cwricwlwm, sicrhau ansawdd a chymorth technegol ar gyfer systemau sydd ar gael i ddysgwyr.
Yr egwyddorion
Mae gan ddysgwyr sy’n ymgymryd ag asesiad yr hawl i ddisgwyl yr un cyfleoedd cyfartal i lwyddo â’r dysgwyr sy’n mynychu canolfan. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid defnyddio’r union un gweithdrefnau, cyfleusterau neu amserlenni, ond y mae’n golygu na ddylai unrhyw ddysgwr fod dan anfantais.
‘Dylid defnyddio rhaglenni dysgu cyfunol’ ar gyfer dysgu yn ymgorffori asesiad seiliedig ar sgiliau, er mwyn sicrhau fod gan ddysgwyr gyfleoedd digonol i ymarfer sgiliau cyn asesiad ac i arddangos sgiliau ar adeg asesu.
Mae’n ofynnol i ganolfannau gymryd cyfrifoldeb dros gydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau a chodau ymarfer (ee diogelu data, gwahaniaethu ar sail anabledd, hawlfraint, iechyd a diogelwch ayyb) wrth ddefnyddio asesu o bell ar gyfer asesu cymhwyster a/neu uned yn fewnol.
Cysylltiadau defnyddiol
Polisi Asesu o Bell
Polisi Mynediad at Asesiad Teg
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
