Polisi e-asesu
Cwmpas
Rhaid i ganolfannau sy’n bwriadu defnyddio prosesau asesu electronig ddatblygu polisi e-asesu sy’n cydymffurfio â meini prawf penodol o ran cefnogi staff a dysgwyr, diogelwch a chydweddiad. Mae Agored Cymru yn ymroddedig i gefnogi canolfannau wrth gyflwyno technegau e-asesu a fydd yn fanteisiol i’r canolfannau ac i’r dysgwyr.
Y grwpiau y mae angen eu cynnwys
Staff canolfannau sy’n gyfrifol am ddatblygu cwricwlwm, sicrhau ansawdd ac am gymorth technegol systemau.
Yr egwyddorion
Mae’n ofynnol i ganolfannau gysylltu ag Agored Cymru ynghylch cyflwyno e-asesu i’w ddefnyddio gyda’u cymwysterau a/neu unedau. Bydd hyn yn sicrhau y gellir adolygu gweithdrefnau a sefydlu trefniadau priodol ar gyfer dilysu.
Dylai staff a dysgwyr fod wedi’u hyfforddi’n ddigonol yn y defnydd o dechnoleg e-asesu.
Mae’n ofynnol i ganolfannau ddefnyddio systemau i bennu dilysrwydd dysgwyr a’u tystiolaeth asesu, gan ofalu bod deunydd asesu yn cael ei storio’n ddiogel. Rhaid cymhwyso systemau dilysu mewnol i bob asesiad.
Mae’n ofynnol i ganolfannau fod yn gyfrifol am gydymffurfo â gofynion cyfreithiol, rheoliadau a chodau ymarfer (ee diogelu data, gwahaniaethu ar sail anabledd, hawlfraint, iechyd a diogelwch ayyb) wrth ddefnyddio e-asesu ar gyfer asesu cymhwyster a/neu uned yn fewnol.
Dolenni defnyddiol
