Creu cymwysterau a gwobrwyo cyrhaeddiad yng Nghymru
Croeso i Agored Cymru
Rydym yn un o Sefydliadau Dyfarnu’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ac yn elusen sy’n cynnig cyfleoedd hyblyg ac addysgol wedi eu
cynllunio i helpu dysgwyr o bob oedran a gallu i gyrraedd eu potensial.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o ddyfarnu credyd yng Nghymru, mae ein cymwysterau’n adlewyrchu blaenoriaethau unigryw unigolion, cymunedau a chyflogwyr yng Nghymru. Mae ein tîm o staff arbenigol ar waith ledled Cymru’n darparu cefnogaeth unigol mewn dylunio cwricwlwm a sicrhau ansawdd.
Mae Agored Cymru’n cynnig cyfle i ganolfannau cydnabyddedig gyflwyno dysgu gydol oes yn effeithiol, ehangu cyfle a galluogi dilyniant dysgwyr er mwyn cefnogi amcanion y Gymru fodern yn y Gymraeg a/neu’r Saesneg.
Rydym hefyd yn gallu achredu hyfforddiant mewnol a helpu busnesau i ddarparu sicrwydd ansawdd pwrpasol o ansawdd uchel ar gyfer eich hyfforddiant.
Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys holl Golegau Addysg Bellach Cymru, holl ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, gwasanaethau awdurdodau lleol, ysgolion uwchradd, darparwyr hyfforddiant, y sector gwirfoddol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a llawer o rai eraill.
Gobeithiwn y bydd ein gwefan yn rhoi ichi’r holl wybodaeth y byddwch ei angen ond os hoffech siarad gyda ni, mae rhestr lawn o’n staff yma. Mae’r rhestr yn rhannu swyddogaethau’r staff rhwng Datblygu Busnes (unedau newydd, cwricwlwm, cymwysterau, dod yn ganolfan), Ansawdd a Safonau (ansawdd, gwirio allanol, adolygu ansawdd, ardystio etc.) a Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol (cyllid, Adnoddau Dynol, ymholiadau ynghylch unedau a’ch fframwaith). Os nad ydych yn sicr â phwy i siarad, bydd pwy bynnag fydd yn ateb eich galwad yn gallu’ch cyfeirio chi at yr arbenigwr priodol.
Janet Barlow
Prif Weithredwr

Carneddau Eryri Photo copyright erwlas' Flickr
