Safonau Gwasanaeth Agored Cymru 2010-11
- Cyfadran Datblygu Busnes
- Cyfadran Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio
- Mynediad i Addysg Uwch
- Cyfadran Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyfadran Datblygu Busnes
| Cais am gydnabyddiaeth canolfan: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | ymgymryd â pharatoi ar gyfer cyflwyno canolfan newydd; | 1 | darparu ymateb cychwynnol i ymholiadau i ganolfannau o fewn 5 dydd gwaith; |
| 2 | sicrhau fod popeth yn cydymffurfio â'r gofynion er mwyn medru prosesu cydnabyddiaeth i ganolfan; | 2 | darparu ymateb i'r ffurflen cais ymholi gychwynnol o fewn 10 dydd gwaith; |
| 3 | darparu hysbysiad o ddeilliant y cais cychwynnol am gydnabyddiaeth canolfan o fewn 15 dydd gwaith yn tarddu o'r adolygu ansawdd cychwynnol. | ||
Cyfadran Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio
| Ardystio: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | sicrhau fod pob argymhelliad am ddyfarnu credydau (RACs – C1) wedi ei lanw'n gywir, ac wedi ei lofnodi gan y Dilysydd Mewnol cymeradwy (AIV) neu'r Dilysydd Allanol (DA) a'i ddychwelyd i Agored Cymru o fewn 10 dydd gwaith o ddyddiad y cwrs | 1 | cynhyrchu a chyflwyno RACs (C1) o fewn 20 dydd gwaith o dderbyn cofrestriad wedi ei gwblhau'n gywir (R1) |
| 2 | dosbarthu tystysgrifau'n brydlon i bob dysgwr; | 2 | prosesu a gyrru tystysgrifau i ganolfannau (gyda phost wedi ei recordio neu wasanaeth danfon diogel arall) o fewn 25 dydd gwaith o dderbyn ffurflen RAC (C1) wedi ei llanw'n gywir |
| 3 | cadw copi o RAC(C1) | 3 | prosesu a gyrru tystysgrifau i ganolfannau (gyda phost wedi ei recordio neu wasanaeth danfon diogel arall) o fewn 10 dydd gwaith o dderbyn RAC (C1) electronig wedi ei llanw'n gywir |
| 4 | ail-roi tystysgrifau o fewn 5 dydd gwaith o gais ysgrifenedig; | ||
| 5 | cynhyrchu 99.5% o dystysgrifau a thrawsysgrifau heb i Agored Cymru fod yn gyfrifol am unrhyw wallau; | ||
| Dilysu Allanol: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | ymateb i gyfathrebiadau gan DA yn brydlon mewn perthynas â threfnu dilysu allanol; | 1 | Rhoi cytundebau i Ddilyswyr Allanol(DA) (gyda mynediad at ddogfennau perthnasol) o fewn 20 dydd gwaith o ddynodi i ganolfan; |
| 2 | sicrhau fod pob tiwtor sy'n cyflwyno yn ymwybodol o ofynion dilysu allanol; | 2 | DA i ddychwelyd cytundebau wedi eu llofnodi o fewn 10 dydd gwaith o'u derbyn; |
| 3 | cadw cofrestr gywir o bresenoldeb dysgwyr a pheri ei bod ar gael i DA; | 3 | DA i ddod i gyswllt â Chanolfannau o fewn 10 dydd gwaith o gael cytundeb; |
| 4 | cyflwyno cynllun gweithredu o fewn 20 dydd gwaith o dderbyn adroddiad dilysu allanol (DA); | 4 | DA i gyflwyno adroddiadau dilysu allanol o fewn 6 dydd gwaith; |
| 5 | gyrru adroddiad DA i ganolfan o fewn 25 dydd gwaith; | ||
| 6 | sicrhau fod pob DA yn mynychu o leiaf un cyfarfod safoni bob dwy flynedd. | ||
| Adolygu Ansawdd: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | ymateb i gyfathrebiadau gan adolygwyr ansawdd (AA) yn brydlon parthed trefnu adolygiadau cychwynnol a blynyddol | 1 | rhoi cytundeb i adolygwyr ansawdd (AA) (a mynediad at ddogfennau perthnasol) o fewn 20 dydd gwaith o ddynodi'n ganolfan; |
| 2 | cadw cofnod a thracio o gynnydd dysgwyr; | 2 | AA i ddychwelyd cytundebau o fewn 10 dydd gwaith o'u lawr lwytho o'r safle we; |
| 3 | dosbarthu tystysgrifau'n brydlon i bob dysgwr; | 3 | AA i gysylltu â chanolfannau o fewn 10 dydd gwaith o dderbyn cytundeb |
| 4 | sicrhau fod gwybodaeth a gafwyd gan Agored Cymru yn cael ei dosbarthu i'r staff perthnasol i gyd; | 4 | AA i gyflwyno adroddiadau o fewn 10 dydd gwaith o'r broses adolygu ansawdd; |
| 5 | rhoi gwybod i Agored Cymru am unrhyw newidiadau yn y staff allweddol i sicrhau fod cofnodion AC yn cael eu diweddaru; | 5 | cyflwyno adroddiad AA, yn cynnwys y cynllun gwella ansawdd, o fewn 20 dydd gwaith o ddyddiad yr adolygiad ansawdd; |
| 6 | sicrhau fod pob AA yn mynychu o leiaf un sesiwn ddiweddaru bob blwyddyn; | ||
| 7 | darparu digwyddiad blynyddol i AA a chytundebau ansawdd canolfannau yn rhanbarthau'r Gogledd, De-orllewin a De-ddwyrain. | ||
| Cwynion: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | cyflwyno cwynion yn ysgrifenedig i'r Prif Swyddog Gweithredol; | 1 | hysbysu canolfannau am y drefn gwyno; |
| 2 | ymateb i ddeilliant cwyn o fewn 10 dydd gwaith; | 2 | Cydnabod derbyn cwyn o fewn 5 dydd gwaith; |
| 3 | ymateb i'r gwyn a manylu ar y penderfyniad y deuwyd ato ac amlinellu beth fwriedir ei weithredu o fewn 15 dydd gwaith; | ||
| 4 | cyfeirio unrhyw gwyn heb ei ddatrys ynglyn â gwirio a dilysu i'r Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoliadau a phob mater arall i'r Bwrdd pan fo angen. | ||
Mynediad i Addysg Uwch
| Dilysu / Ail-ddilysu: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | Defnyddio dogfennau electronig i gyflwyno rhaglen; | 1 | darparu ymateb ysgrifenedig i ddrafftiau o Fynediad newydd i raglenni / llwybrau Addysg Uwch o fewn 10 dydd gwaith; |
| 2 | ymgynghori gyda SAUau wrth gynllunio neu wella rhaglenni, llwybrau, modiwlau ac unedau Mynediad i Addysg Uwch; | 2 | darparu hyfforddi yng ngofynion (ail) ddilysu i dimau cwrs Mynediad cyn y paratoi / adolygiad cychwynnol o fewn 20 dydd gwaith o gais am hynny; |
| 3 | cyflwyno rhaglen ar gyfer (ail)ddilysu pob 5 mlynedd neu lai os bydd gan yr Asiantaeth Ddilysu Mynediad (AVA) bryderon am y ddarpariaeth; | 3 | hysbysu aelodau panel o ddyddiad (ail) ddilysu a chyflenwi dogfennau o leiaf 10 dydd gwaith cyn dyddiad y panel; |
| 4 | sicrhau fod staff allweddol yn ymwneud â pharatoi rhaglen Fynediad (ail)ddilysu yn mynychu sesiwn hyfforddi Agored Cymru; | 4 | rhoi gwybod am anghenion y panel i'r canolfannau er mwyn cael cymeradwyaeth yn ysgrifenedig o fewn 10 dydd gwaith o ddyddiad cyfarfod y panel; |
| 5 | cyflwyno cynllun rhaglen ddysgu derfynol o leiaf 15 dydd gwaith cyn y dyddiad panel y cytunwyd arno; | 5 | cyflwyno dogfennau cymeradwyo rhaglenni newydd i'r Pwyllgor Mynediad Addysg Uwch (PMAU ) ar gyfer ei dderbyn yn ffurfiol, gan yrru'r dogfennau perthnasol ymlaen wedi eu llofnodi gan Gadeirydd y PMAU i'r ganolfan o fewn 10 dydd gwaith o ddydd cyfarfod y PMAU. |
| 6 | gwella a dychwelyd dogfen gyflwyniad yn unol ag adroddiad y panel 20 dydd gwaith ar ôl derbyn adroddiad y panel; | ||
| 7 | gwneud pob ymdrech i gynorthwyo gyda phaneli darllen a dilysu unedau; | ||
| Sicrwydd Ansawdd: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | cynnal 'Bwrdd arholi' diwedd blwyddyn (cyfarfod asesu terfynol) yn dilyn y cyfarfod dilysu terfynol, lle bydd dyfarniad yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) cydnabyddedig a chadarnhau tystysgrifau Mynediad i Addysg Uwch; | 1 | darparu ymateb cychwynnol i bob mater perthynol i ddilysu o fewn 5 dydd gwaith; |
| 2 | rhoi gwybod enw eu DA i'r canolfannau erbyn diwedd mis Hydref y flwyddyn academaidd gyfredol; | ||
| 3 | sicrhau fod pob DA yn mynychu o leiaf sesiwn diweddaru bob blwyddyn; | ||
| 4 | sicrhau fod y prif adolygwyr ansawdd yn mynychu Bwrdd arholi diwedd tymor; | ||
| 5 | sicrhau fod cynrychiolydd AVA yn mynychu Byrddau arholi; | ||
| 6 | sicrhau fod o leiaf 10% o Fyrddau arholi yn cael eu gwerthuso ac adroddiad yn cael ei roi i'r PMAU. | ||
| Ardystio: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | cynghori'r AVA pa lwybrau sy'n rhedeg o fewn a mis o'r dyddiad cofrestru; | 1 | sicrhau fod Mynediad QAA cydnabyddedig i gael tystysgrifau Addysg Uwch yn cael eu prosesu a'u gyrru i ganolfannau o fewn 25 dydd gwaith o dderbyn y dogfennau cysylltiedig gyhyd â'u bod wedi eu llanw'n gywir; |
| 2 | cofrestru dysgwyr erbyn diwedd mis Chwefror fan hwyraf ar gyfer cychwyn fis Medi ac erbyn diwedd mis Mehefin ar gyfer cychwyn fis Chwefror; | 2 | cwblhau rhoi tystysgrifau yn yr haf erbyn diwedd yr wythnos gyntaf ym mis Awst gyhyd â bod ffurflen RACs (C1) yn gywir. |
| 3 | cadw copïau o gofnodion dysgwyr; | ||
| Adroddiadau diwedd blwyddyn: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | cyflenwi'r AVA gyda gwerthusiad beirniadol o bob llwybr Mynediad yn flynyddol wedi ei sylfaenu ar y meini prawf a ddarparwyd, erbyn 30 o fis Medi; | 1 | darparu canllawiau i gydlynwyr Mynediad erbyn diwedd mis Mehefin am y wybodaeth y gofynnir amdani ar gyfer adolygu diwedd blwyddyn; |
| 2 | cyflenwi ystadegau cywir gan ddefnyddio templed y QAA a ddarperid erbyn diwedd mis Chwefror; | 2 | darparu templedi i gasglu ystadegau Mynediad ym mis Rhagfyr (cofrestriadau, ethnigrwydd ac anableddau) ac ym mis Mehefin (cyraeddiadau a chynnydd) |
| 3 | darparu adborth i Ganolfannau ar adolygiadau blynyddol yn ystod adolygiadau diwedd blwyddyn. | ||
| Sefydliad: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | sicrhau fod llenyddiaeth hyrwyddo Mynediad i Addysg Uwch yn cynnwys logo cydnabyddedig QAA ac AVA a'i bod yn adlewyrchu anghenion a natur y cymwysterau; | 1 | Cyfarfod â staff canolfan i gadarnhau fod llenyddiaeth yn briodol |
| 2 | Mynychu Fforymau Mynediad rhanbarthol unwaith y tymor; | 2 | cyfarfod ddwywaith y flwyddyn gyda staff canolfan; |
| 3 | penodi tiwtor Mynediad dynodedig neu gydlynydd i weithredu fel canolbwynt ar gyfer cyfathrebiadau AVA ac i ddosbarthu gwybodaeth i aelodau eraill y tîm Mynediad; | 3 | darparu 3 chyfle'r flwyddyn bob rhanbarth i'r fforwm Mynediad gael cyfarfod; |
| 4 | sicrhau fod papurau pwyllgorau / fforymau yn cael eu dosbarthu i'r aelodau o leiaf 5 dydd gwaith cyn y cyfarfod. | ||
| Ymholiadau am ryddhau canlyniadau: | |||
| Gofynion gwasanaeth canolfan | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | gosod manylion cyraeddiadau ar y safle we ar yr un pryd a bydd tystysgrifau'n cael eu gyrru; | ||
Cyfadran Gyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
| Llywodraethu: | |||
| Gofynion gwasanaeth canolfan | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | dosbarthu cofnodion drafft i aelodau pwyllgor ac eraill a fo i'w derbyn o fewn 20 dydd gwaith of cyfarfod; | ||
| 2 | sicrhau fod papurau perthnasol i bwyllgorau neu fforymau'n cael eu dosbarthu i aelodau o leiaf 5 dydd gwaith cyn cyfarfodydd. | ||
| Cyllid: | |||
| Gofynion Canolfan: | Safonau Gwasanaeth Agored Cymru: | ||
| 1 | sicrhau fod anfonebau'n cael eu talu o fewn 30 dydd gwaith; | 1 | hysbysu canolfannau erbyn diwedd mis Ebrill o'r newid strwythur am y flwyddyn academaidd olynol; |
| 2 | ymateb i ymholiadau am anfonebau o fewn 5 dydd gwaith; | ||
| 3 | talu i gredydwyr yn unol ag amodau a thelerau Agored Cymru. | ||
