Creu cymwysterau, gwobrwyo cyrhaeddiad

 

Cwestiynau Cyffredin Dysgwr

 

Yn ôl i’r brig

Beth yw Credydau a Lefelau?
Mae Credydau yn nodi swm eich cyraeddiadau dysgu, mewn blociau o 10 awr, ac yn cael eu dyfarnu ar un lefel neu fwy.

Mae Lefel Mynediad yn sylfaen i ddilyniant i raglenni dysgu eraill oddi mewn i’r fframwaith.

Mae Lefel Un yn cymharu â NVQ1, GNVQ Sylfaenol a TGAU graddau D-G.

Mae lefel Dau yn cymharu â NVQ2, GNVQ Canolraddol a TGAU graddau A*-C.

Mae Lefel 3 yn cymharu â NVQ3, Lefel A, Lefel AS a TAAU.

Yn ôl i’r brig

Sut bydd fy nysgu yn cael ei asesu?
Fel arfer, mae cyrsiau yn rhoi credyd i chi am yr hyn rydych yn ei wneud wrth i chi ddysgu, a bydd y dull asesu yn amrywio yn ôl y math o gwrs ac yn ôl lefel y cwrs rydych yn ei ddilyn. Gall asesu amrywio o edrych ar dystiolaeth o’r hyn rydych wedi’i gyflawni yn ystod y cwrs i wneud aseiniadau neu ddarnau o waith gosod. Cewch fanylion gan eich tiwtor ynglyn â’r mathau o asesiad a ddefnyddir ar gyfer cwrs penodol.
Y gwaith cwrs y byddwch yn ei greu, e.e. dilladau, aseiniadau, allbrint cyfrifiadurol, paentiad neu brosiectau yw’r Dystiolaeth o Gyrhaeddiad - ac yn dangos i chi ac i’ch tiwtor yr hyn rydych wedi’i ddysgu.
Edrychir ar y Dystiolaeth o Gyrhaeddiad wrth safoni. Gall safonwr allanol o’ch RhCA lleol hefyd ymweld â’ch cwrs i siarad gyda phobl am eu profiad ac edrych ar enghreifftiau o’u gwaith.
Yn olaf, bydd y safonwr allanol yn cadarnhau’r credydau a’r lefelau rydych wedi’u cyflawni.
Yn ôl i’r brig


Beth fedra’ i wneud gyda fy nghredydau?
Fel arfer, mae credydau RhCA yn dderbyniol gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch ar gyfer mynediad i astudiaeth bellach, a chan nifer fawr o gyflogwyr a hyfforddwyr. Gallwch ddefnyddio eich credydau i ddangos eich cyraeddiadau ac yn brawf o’ch gwybodaeth a’ch sgiliau mewn amrediad o bynciau. Gan ddibynnu ar lefel y cwrs y byddwch yn ei ddilyn, gallwch ddefnyddio’r credydau i symud ymlaen i gyrsiau eraill. Cysylltwch â’ch colegau lleol a darparwyr eraill i gael gwybod mwy am y cyfleoedd sy’n agored i chi.
Yn ôl i’r brig


Beth os byddaf yn symud ar ganol fy hyfforddiant?
Wrth gofrestru gyda’ch RhCA lleol byddwch yn dod yn rhan o’r Rhwydwaith Coleg Agored Cenedlaethol (NOCN). Mae NOCN yn cwmpasu Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac felly os byddwch yn symud, gallwch drosglwyddo eich credydau a chasglu mwy, waeth i ble y byddwch yn symud.
Yn ôl i’r brig


Mae gen i broblem gyda fy nhystysgrif. Sut fedra’ i ddatrys hyn?
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r ganolfan lle gwnaethoch ddilyn y cwrs. Dylai’r ganolfan allu eich helpu. Os nad ydych yn siŵr â phwy y dylech gysylltu, bydd Joan Roberts yn y RhCA yn gallu eich helpu.
Yn ôl i’r brig


Rwyf wedi derbyn tystysgrif, ond nid fy un i yw hi. I ble ddylwn i ei hanfon?
Anfonwch hi i ’r cyfeiriad yma gyda nodyn yn egluro eich bod wedi derbyn y dystysgrif mewn camgymeriad.
Yn ôl i’r brig


Rwyf wedi colli fy nhystysgrif. Sut fedra’ i gael un arall yn ei lle?
Cysylltwch â Joan Roberts ac fe gewch dystysgrif arall ganddi.
Yn ôl i’r brig


Mae yna broblem gyda fy nghwrs. Sut ddylwn i gwyno?
Cysylltwch â’r ganolfan sy’n darparu’r cwrs. Bydd gan y ganolfan drefn ar gyfer ymchwilio i broblemau a’u datrys.
Yn ôl i’r brig