Ydych chi wedi clywed y newyddion?

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ychwanegu cyfres o gymwysterau bancio a chyllid, a gynigiwyd yn flaenorol gan Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain (LIBF), i bortffolio Agored Cymru. Wrth i LIBF ddod â’r cymwysterau hyn i ben, rydym bellach yn gweithio’n galed i’w paratoi ar gyfer eu cyflwyno o fis Medi 2025 ymlaen.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i ganolfannau gael eglurder ar sut a phryd fydd y cymwysterau hyn ar gael. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ac yn cwblhau'r gwaith angenrheidiol a byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Er mwyn eich cadw'n wybodus, rydym wedi lansio Hwb Cymwysterau Cyllid lle gallwch ddod o hyd i:

  • Amserlen – Amlinelliad o’r broses drosglwyddo a’r camau nesaf.
  • Cwestiynau Cyffredin – Atebion i gwestiynau allweddol i’ch tywys drwy’r broses.
  • Ymgynghoriad – Cyfle i rannu’ch adborth.

Ymweld â'r Hwb

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth barhaus, rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o wybodaeth gyda chi yn fuan!